Rhif y Ddeiseb: P-06-1465

Teitl y ddeiseb: Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  Mae anifeiliaid anwes yn rhan o’r teulu. Mae herwgydio’r anifeiliaid hyn yn brofiad trawmatig. Er gwaethaf hyn, mae anifeiliaid anwes a gaiff eu dwyn yn cael eu hystyried yn eiddo personol, ac mae’r dedfrydau cysylltiedig yn dibynnu ar eu gwerth ariannol.

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd Bil Herwgydio Anifeiliaid Anwes 2024 yn cydnabod yr effaith y mae’r drosedd hon yn ei chael ar emosiynau a llesiant pobl ac anifeiliaid anwes. Bydd herwgydio cŵn a chathod yn droseddau penodol a allai arwain at ddedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar. Mae Bil Herwgydio Cŵn (Yr Alban) hefyd yn cael ei ystyried.

Mae Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes. Bydd cŵn a chathod sy’n cael eu dwyn yn parhau i gael yr un lefel o flaenoriaeth yng Nghymru ag eiddo sy’n cael ei ddwyn – blaenoriaeth isel. Os caiff troseddwr ei ddal, yn gyffredinol, bydd yn wynebu dirwy fechan neu ddedfryd ohiriedig.

Rydym yn annog y Senedd i ddiwygio’r drefn ar gyfer ymdrin ag achosion o ddwyn anifeiliaid anwes yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno trosedd benodol ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes.

O gofio bod cosbau mwy penodol wedi’u cyflwyno yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd anifeiliaid anwes yng Nghymru mewn perygl o gael eu gweld gan ladron fel targedau mwy gwerthfawr. Rhaid inni gynnig yr un lefel o ddiogelwch i’n hanifeiliaid anwes a’u teuluoedd â’r hyn a gynigir mewn rhannau eraill o’r DU.

 

 


1.        Y cefndir

1.1.            Deddfwriaeth bresennol

Cyflwynodd Deddf Herwgydio Anifeiliaid Anwes 2024 (y ‘Ddeddf’) drosedd newydd ar gyfer herwgydio anifeiliaid anwes, gan wneud herwgydio cŵn a chathod yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn drosedd benodol. Gall euogfarnau arwain naill ai at ddirwy a/neu at hyd at bum mlynedd o garchar. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i wneud darpariaeth gyfatebol sy’n ymwneud â herwgydio anifeiliaid eraill a gedwir yn gyffredin fel anifeiliaid anwes.

Mae papur briffio gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn rhoi rhagor o wybodaeth am y drosedd herwgydio.

Mae’r drosedd newydd hon yn disodli cyfraith dwyn anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Dwyn 1968 ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. O dan Ddeddf 1968, diffinnir anifeiliaid fel eiddo a’r gosb fwyaf am ddwyn anifail anwes yw saith mlynedd o garchar. Fodd bynnag, mae dedfrydu’n dibynnu ar werth ariannol yr anifail, felly mae dedfrydau am ddwyn anifail anwes yn gyffredinol yn llai llym.

Nid yw’r drosedd herwgydio anifeiliaid anwes o dan y Ddeddf newydd yn gymwys i Gymru. Yng Nghymru a’r Alban, mae dwyn anifail anwes yn parhau i fod yn drosedd o dan Ddeddf 1968.

Efallai eich bod yn ymwybodol o Fil Herwgydio Cŵn (Yr Alban) sydd yn yr arfaeth i geisio gwneud herwgydio cŵn yn drosedd statudol. Caniateir i’r Bil gael ei gyflwyno fel Bil Aelod ond nid yw wedi’i gyflwyno’n ffurfiol i Senedd yr Alban eto.  

1.2.          Cefndir i’r Ddeddf Herwgydio Anifeiliaid Anwes

Gwnaeth Llywodraeth y DU sefydlu’r Tasglu Dwyn Anifeiliaid Anwes (y ‘Tasglu’) ym mis Mai 2021 mewn ymateb i bryderon y cyhoedd bod rhagor o anifeiliaid anwes yn cael eu dwyn yn ystod pandemig Covid-19. Roedd pryderon bod cynnydd yn y galw am anifeiliaid anwes, a arweiniodd at brisiau uwch, yn gyfrifol am y cynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes y cofnodwyd eu bod wedi’u dwyn. Mae tystiolaeth a gasglwyd gan y Tasglu yn awgrymu bod tua 2,000 o achosion o ddwyn cŵn a 400 o achosion o ddwyn cathod wedi’u hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2020. Pwysleisiodd y Tasglu nad eiddo yn unig yw anifeiliaid anwes ond bod ganddynt deimladau.

Casgliad y Tasglu oedd y dylid creu trosedd newydd, ‘herwgydio anifeiliaid anwes’, a allai newid y ffocws o’r golled i’r perchennog i les yr anifail wrth ddedfrydu.

Roedd ymgyrchwyr yn galw am ddeddfwriaeth  a oedd yn adlewyrchu gwerth emosiynol anifeiliaid anwes i’w perchnogion, yn ogystal â’r gofid, i’r perchennog a’r anifail, sy’n gysylltiedig â’u dwyn.

Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn 2021. Roedd yn cynnwys darpariaethau i greu trosedd o fynd ag anifail anwes heb awdurdod cyfreithlon yn Lloegr. Fodd bynnag, cafodd y Bil ei dynnu’n ôl ym mis Mehefin 2023.

Cyflwynwyd y Bil Herwgydio Anifeiliaid Anwes wedyn i Dŷ’r Cyffredin ar 6 Rhagfyr 2023 gyda darpariaeth i wneud herwgydio anifeiliaid anwes yn drosedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd y Bil yn Fil Aelod Preifat a noddwyd gan Anna Firth AS a’r Arglwydd Black o Brentwood ac a gefnogwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU. Cafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2024.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig  (yr ‘Ysgrifennydd Cabinet’), at y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon.

Mae’r llythyr yn dechrau drwy gydnabod bod herwgydio anifeiliaid anwes neu golli anifail anwes yn eithriadol o drist a gofidus i berchnogion a’i bod yn ddealladwy bod perchnogion eisiau i rywbeth gael ei wneud.

Mae’r llythyr yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu blaenoriaethu cyflawni ymrwymiadau presennol ar gyfer lles anifeiliaid, y mae’n credu y bydd yn effeithio’n gadarnhaol ar filoedd o anifeiliaid ledled Cymru. Mae ymrwymiadau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid wedi’u cynnwys yng Nghynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026, ond nid ydynt yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cyflwyno trosedd herwgydio anifeiliaid anwes.

Aiff yr Ysgrifennydd Cabinet ymlaen i nodi bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i ddeddfu ar y maes hwn yn y dyfodol, os bydd angen gwneud hynny, er bod dwyn anifail anwes eisoes yn drosedd o dan Ddeddf Dwyn 1968. Yna, mae’n pwysleisio bwriad Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu addysg i helpu perchnogion i amddiffyn eu hanifeiliaid anwes.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae’r mater o herwgydio anifeiliaid anwes wedi cael ei godi yn y Cyfarfod Llawn.

Ar 27 Mawrth 2024, gofynnodd Andrew R.T. Davies AS i’r Ysgrifennydd Cabinet pa ystyriaeth a roddwyd i fabwysiadu’r Bil Herwgydio Anifeiliaid Anwes. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

The theft of a pet is a criminal offence under the non-devolved Theft Act 1968 and the maximum penalty is seven years’ imprisonment.  I appreciate the loss of a pet can be distressing and officials are in dialogue with Local Authorities and the police regarding a range of matters around dog ownership. We are working to provide education for owners to help them protect their animals. For example, ensuring microchipping data is current, not tying pets up outside shops, not leaving them unattended in gardens if not secure and not letting pets roam out of sight when out walking, all of which will feature in the ongoing work on Responsible Dog Ownership.

After careful consideration it has been decided to prioritise resources to existing commitments for animal welfare in Wales at this time and therefore Wales will not be included in the UK Government Private Members’ Bill on Animal Abduction.

Ar 16 Medi 2024, gofynnodd Mabon ap Gwynfor AS pa effaith y bydd Deddf Herwgydio Anifeiliaid Anwes 2024 yn ei chael ar Gymru, a pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i gyflwyno Bil tebyg i Gymru. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet gan roi sylwadau tebyg i’r sylwadau uchod.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.